Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Mehefin 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(271)v2

 

<AI1>

        Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

        Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

        Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynlluniau Ceidwadwyr Cymru i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.

</AI3>

<AI4>

        Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5781 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu cyflwyno rhannu cyfnodau absenoldeb rhieni, sef penderfyniad a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015, a fydd yn cefnogi dynion i gymryd rôl fwy gweithredol o ran magu plant, ac yn cefnogi menywod i ddychwelyd i gyfranogiad economaidd llawn ar ôl rhoi genedigaeth.

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sicrhau bod menywod yn cael mynediad i gyflogaeth o ansawdd, sy'n talu'n dda ac sy'n hyblyg.

 

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi manteision gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel o ran cefnogi menywod yn ôl i'r gweithle.

 

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi galwadau i Gymru ddod yn genedl cyflog byw i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

</AI4>

<AI5>

        Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:

 

a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

 

b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

 

c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;

 

d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac

 

e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng Nghymru.

</AI5>

<AI6>

        Cyfnod pleidleisio 

</AI6>

<AI7>

        Dadl Fer (30 munud)

NDM5782 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Gastroenteroleg - gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>